🌈 Welsh LGBTQ+ Voices Shine in Pride Month Film Showcase
- Tiago Gambogi
- Jun 17
- 3 min read

Llandovery Cinema presents an evening of Welsh language and bilingual short films celebrating LGBTQ+ stories — many of which have been celebrated by or featured at the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival (www.irisprize.org).
To mark Pride Month this June, Llandovery Cinema warmly invites you to a special evening of short films spotlighting LGBTQ+ voices from across Wales. Taking place on Saturday 21st June, 7pm at the Rhys Prichard Memorial Hall, this vibrant programme features a curated selection of Welsh language and bilingual short films that explore identity, community, and queer experience through powerful and poetic storytelling.
Showcasing the creativity of Welsh filmmakers, this event uplifts underrepresented voices within our national cinema. From deeply personal narratives to bold and imaginative shorts, the evening reflects the richness and diversity of queer life and culture in Wales today.
The evening begins with a friendly, informal shared meal at 6pm (doors open at 5:30pm). Guests are invited to bring along a dish to share—sweet or savoury—and enjoy a potluck-style gathering with a chance to connect, share stories, and build community spirit before settling down for the films.
🎬 Special Feature: The night will conclude with a live Q&A with Efa Blosse-Mason, director of the acclaimed animated short Cwch Deilen, chaired by Heart of Wales LGBTQ+, a Llandovery-based community group. Together, we’ll explore the themes of the films and rural pride through the lens of LGBTQ+ artists.
Join us as we celebrate Pride through film — with stories rooted in our language, landscapes, and lived experiences.
📅 Date: Saturday 21st June
🕖 Time: 7pm (Meal Share at 6pm | Doors open at 5:30pm)
📍 Venue: Rhys Prichard Memorial Hall, 4 Waterloo Street, Llandovery SA20 0DS
🎟 Tickets: £5 – available at LYCC (Market Square, Llandovery), via Ticket Source (https://bit.ly/llandoverycinema-pride), or on the door (subject to availability)
All are welcome. Come along and be part of this joyful celebration of Welsh language, film, and LGBTQ+ pride. 🏳️🌈
🌈 Lleisiau LHDT+ Cymru'n Disgleirio yn Nigwyddiad Ffilm Mis Balchder
I nodi Mis Balchder ym mis Mehefin, mae Sinema Llanymddyfri yn eich gwahodd yn gynnes i noson arbennig o ffilmiau byrion sy’n rhoi llwyfan i leisiau LHDT+ o bob cwr o Gymru. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar nos Sadwrn 21 Mehefin am 7pm yn Neuadd Goffa Rhys Prichard, a bydd yn cynnwys detholiad bywiog o ffilmiau byrion Cymraeg a dwyieithog sy’n archwilio hunaniaeth, cymuned, a phrofiadau cwiar trwy straeon grymus a theimladwy.
Gan ddathlu creadigrwydd gwneuthurwyr ffilm o Gymru, mae’r rhaglen hon yn codi llais ar gyfer unigolion nad ydynt bob amser yn cael eu cynrychioli yng nghinema’r genedl. O straeon personol a myfyriol i ffilmiau byr beiddgar ac arbrofol, mae’r noson yn adlewyrchu cyfoeth bywyd a diwylliant cwiar yng Nghymru heddiw.
Bydd y noson yn dechrau gyda phryd bwyd cymunedol anffurfiol am 6pm (bydd drysau’n agor am 5:30pm). Fe'ch anogir i ddod ag arlwy i'w rannu – melys neu sawrus – ac i fwynhau’r cyfle i rannu bwyd, sgwrs a chwmnïaeth cyn eistedd i wylio’r ffilmiau.
🎬 Nodwedd Arbennig: Bydd y noson yn gorffen gyda sesiwn Holi ac Ateb fyw gydag Efa Blosse-Mason, cyfarwyddwraig y ffilm animeiddiedig Cwch Deilen, dan gadeiryddiaeth Heart of Wales LGBTQ+, grŵp cymunedol o Lanymddyfri. Byddwn yn trafod themâu’r ffilmiau a phrofiad bod yn LHDT+ mewn ardaloedd gwledig.
Dewch i ddathlu Mis Balchder trwy ffilm – gyda straeon sydd wedi'u gwreiddio yn ein hiaith, ein tirweddau a’n bywydau.
📅 Dyddiad: Nos Sadwrn 21 Mehefin
🕖 Amser: 7pm (Pryd Bwyd am 6pm | Drysau’n agor am 5:30pm)
📍 Lleoliad: Neuadd Goffa Rhys Prichard, 4 Stryd Waterloo, Llanymddyfri, SA20 0DS
🎟 Tocynnau: £5 – ar gael yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymuned (LYCC) Sgwâr y Farchnad, Llanymddyfri, ar Ticket Source https://bit.ly/llandoverycinema-pride, neu wrth y drws (os oes lle ar ôl)
Croeso i bawb. Dewch draw i fod yn rhan o’r dathliad hwn o’r iaith Gymraeg, ffilm, a balchder LHDT+. 🏳️🌈 #WelshLGBTQVoices #LleisiauLHDTCCymru #PrideMonth2025 #MisBalchder2025 #QueerWelshCinema #SinemaCwiarCymru #CelebrateWithPride #DathluBalchder #RuralPride #BalchderGwledig #LlandoveryCinema #SinemaLlanymddyfri #IrisPrize #CwchDeilen #HeartOfWalesLGBTQ #CalonCymruLHDT #CommunityThroughFilm #CymunedTrwyFfilm #LoveIsLove #CariadYwCariad #BilingualStories #StraeonDwyieithog #DestinationLlandovery



Comments